Ariadaeth

Ffurf ar Gristnogaeth a ddaeth yn boblogaidd yn Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain o'r drydedd ganrif OC ymlaen oedd Ariadaeth (neu Ariaeth). Fe'i dyfeisiwyd gan Arius (256-336 OC), offeiriad oedd yn gweithio yn Alecsandria yn yr Aifft. Doedd Ariadaeth ddim yn derbyn bod y Tad a Christ o'r un sylwedd. Yn ôl Arius, roedd Iesu Grist, er ei fod yn dduwiol, yn israddol i'r Tad gan iddo gael ei greu ganddo.

Daeth Ariadaeth yn ddadleuol iawn yn yr Eglwys Fore, ac fe'i condemniwyd fel heresi yng Nghyngor Cyntaf Nicea yn 325. Ni ddaeth hyn â'r ddadl i ben, o achos poblogaeth Ariadaeth Ymerodraeth Caergystennin a'r gefnogaeth a gafodd gan ymerodron diweddarach Caergystennin fel Constantius II a Valens. Fe wnaeth Ariadaeth golli tir ar ôl Cyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr Ymerawdr Theodosius yn 381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd Germanaidd cynnar, yn enwedig gan y Gothiaid.

Rhai pobl nodedig

256

2g - 3g - 4g 200au 210au 220au 230au 240au 250au 260au 270au 280au 290au 300au 251 252 253 254 255 256 257 258 259 260 261

298

2g - 3g - 4g 240au 250au 260au 270au 280au 290au 300au 310au 320au 330au 340au 293 294 295 296 297 298 299 300 301 302 303

319

3g - 4g - 5g 260au 270au 280au 290au 300au 310au 320au 330au 340au 350au 360au 314 315 316 317 318 319 320 321 322 323 324

336

3g - 4g - 5g 280au 290au 300au 310au 320au - 330au - 340au 350au 360au 370au 380au 331 332 333 334 335 - 336 - 337 338 339 340 341

346

3g - 4g - 5g 290au 300au 310au 320au 330au - 340au - 350au 360au 370au 380au 390au 341 342 343 344 345 - 346 - 347 348 349 350 351

347

3g - 4g - 5g 290au 300au 310au 320au 330au - 340au - 350au 360au 370au 380au 390au 342 343 344 345 346 - 347 - 348 349 350 351 352

373

3g - 4g - 5g 320au 330au 340au350au 360au 370au 380au 390au 400au 410au 420au 368 369 370 371 372 373 374 375 376 377 378

Arius

Offeiriad Cristnogol a sylfaenydd credo Ariadaeth neu Ariaeth oedd Arius (c. 256 - 336).

Yn ôl Epiphanius o Salamis roedd Arius yn frodor o Libya, yn ôl pob tebyg hen dalaith Rufeinig Cyrenaica.

Dechreuodd y ddadl yn Alexandra yn yr Aifft, lle roedd Arius yn byw. Roedd yr Esgob Alexander o Alexandria ac Athanasius yn credu fod Iesu o'r un sylwedd (ousia) a Duw y Tad, tra'r oedd Arius yn credu ei fod o sylwedd debyg ond nid yr un fath, a bod y Mab wedi ei greu gan y Tad. Galwyd Cyngor Cyntaf Nicaea gan yr ymerawdwr Rhufeinig Cystennin I yn 325 i ddyfarnu ar y mater. Dyfarnodd y Cyngor yn erbyn yr Ariaid.

Parhaodd Ariadaeth yn boblogaidd yn Ymerodraeth Caergystennin a chafodd gefnogaeth gan ymerodron diweddarach Caergystennin fel Constantius II a Valens. Collodd Ariadaeth golli tir ar ôl Cyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr Ymerawdr Theodosius yn 381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd Germanaidd cynnar, yn enwedig gan y Gothiaid.

Awstin o Hippo

Roedd Aurelius Augustinus, Awstin o Hippo, neu Sant Awstin (13 Tachwedd, 354 - 28 Awst, 430) yn o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cristionogaeth yn y gorllewin. Ystyrir ef fel sant gan yr Eglwys Gatholig ac mae llawer o enwadau Protestannaidd hefyd yn ei ystyried fel un o dadau'r ffydd. Mae barn yr eglwysi Uniongred amdano yn fwy amrywiol.

Ganed Awstin yn 354 yn Tagaste (Souk Ahras, Algeria heddiw), o deulu Berber. Addysgwyd ef ym Madaurus, ac yna yn Carthago. Roedd ei fam, Monica, yn Gristion a'i dad Patricius yn bagan. Am gyfnod, gadawodd Awstin yr eglwys i ddilyn Manicheaeth, er mawr ofid i'w fam. Ffurfiodd berthynas a merch a barhaodd am bymtheng mlynedd, a ganwyd mab, Adeodatus, iddo. Yn 383 symudodd i Rufain ac yn 384 cafodd swydd athro rhethreg ym Milan.

Perswadiwyd ef gan esgob Milan, Emrys, i ymuno a'r Eglwys Gatholig. Bedyddiwyd ef a'i fab Adeodatus gan Emrys yn ystod Pasg 387, ac yn 388 dychwelodd i Affrica. Ar y ffordd bu farw ei fam yn Ostia, ac yn fuan wedyn ei fab. Creodd fynachlog yn Tagaste, ac yn 391 ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Hippo Regius, (yn awr Annaba, yn Algeria). Daeth yn bregethwr enwog, ac yn 396 gwnaed ef yn esgob Hippo. Bu farw yno yn 75 oed yn 430, pan oedd y ddinas dan warchae gan y Fandaliaid.

Ysgrifennodd Awstin nifer fawr o weithiau yn Lladin, yn cynnwys gweithiau yn dadlau yn erbyn Ariadaeth, Donatiaeth, Manicheaeth a Pelagiaeth. Y mwyaf enwog o'i weithiau yw Confessiones (Cyffesiadau), a ystyrir weithiau fel yr hunangofiant modern cyntaf, a De civitate Dei (am ddinas Dduw).

Brwydr Adrianople (378)

Ymladdwyd Brwydr Adrianople ar 9 Awst 378 gerllaw dinas Adrianople (Edirne yng ngorllewin Twrci heddiw) rhwng byddin yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain dan yr ymerawdwr Valens a byddin y Gothiaid a'i cyngheiriaid.

Dechreuodd y problemau i'r ymerodraeth Rufeinig pan symudodd nifer fawr o'r Gothiaid dan Fritigern i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan bu problemau; nid oedd bwyd ar gael iddynt ac roedd y trigolion lleol yn elyniathus iddynt. Heblaw y Gothiaid oedd wedi cael caniatad i groesi'r ffîn, roedd miloedd eraill wedi dod i mewn i'r ymerodraeth heb ganiatad.

Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai Gratianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ar 9 Awst 378, gadawodd Valens a'i fyddin ddinas Adrianople a symud tua'r gogledd i ymosod ar wersyll y Gothiaid. Cyrhaeddasant tua 14:30, a dechrau'r ymosodiad. Roedd y Gothiaid wedi trefu eu wagenni mewn cylch amddiffynnol, a gofynnodd Fritigern am drafodaethau i geisio oedi'r ymosodiad Rhufeinig, gan wybod fod ei wŷr meirch allan o'r gwersyll.

Pan ddychwelodd y marchogion Gothaidd, ymosodasant ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig. Gorchfygwyd Valens a'i ladd. Credir i rhwng 10,000 ac 20,000 o filwyr Rhufeinig gael eu lladd yn y frwydr. Gwanychwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople, ac mae rhai ysgolheigion yn ystyried mai'r frwydr hon oedd dechrau dirywiad terfynol yr ymerodraeth. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwydd, Theodosius I, yn dilyn Credo Nicea.

David Davis (Dafis Castellhywel)

Addysgwr, pregethwr a bardd o Geredigion oedd David Davis (14 Chwefror 1745 – 3 Gorffennaf 1827), a adnabyddir fel Dafis Castellhywel (neu Dafis Castell Hywel). Roedd yn fawr ei barch a'i boblogrwydd tua diwedd yr 18g a dechrau'r ganrif olynol. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanwenog.

Emrys Sant

Roedd Emrys Sant (Lladin: Aurelius Ambrosius c. 340 – 4 Ebrill 397) yn gyffeswr, yn ddoethor eglwysig ac yn esgob catholig Milan rhwng 374 a 397. Roedd yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn yr eglwys drwy Ewrop yn y 4c. Roedd yn raglaw-ynad (praefectus consularis) o arfordir Liguria ac ardal Emilia yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel 'yr Eidal'. Yn Milan roedd ei bencadlys, cyn ei ordeinio'n annisgwyl yn esgob yn 374. Gwrthwynebai Ariaeth, neu Ariadaeth, i'r carn; sef gredo fod Iesu Grist yn fab Duw ac a grewyd ganddo. Cyhuddwyd Emrys o erlid Ariaethwyr, Iddewon a phaganiaidd.Dywed traddodiad iddo hyrwyddo "llafarganu atepganiadol" ble adleisir un ochr y côr gan yr ochr arall, bob yn ail. Honnir hefyd iddo gyfansoddi Veni redemptor gentium, un o emynau'r Adfent.

Fe'i ganwyd yng Ngallia Belgica (yr Almaen heddiw) a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yr adeg honno. Mae'n bosibl mai ei dad oedd Aurelius Ambrosius. Mae Emrys yn nodedig am ei ddylanwad ar Awstin o Hippo ac am esgymuno'r ymherawdwr Theodosius ar ôl cyflafan mawr yn Thessalonica.

Mae'r Eglwys yn dathlu ei wyl ar y 7fed Rhagfyr.

Valens

Ymerawdwr Rhufeinig oedd Flavius Iulius Valens (Lladin: IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS; 328 – 9 Awst, 378).

Ganed ef yn Cibalae (Vinkovci yn Serbia heddiw) yn fab i Gratian yr Hynaf. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd Flavius Valentinianus yn ymgyrch yr ymerawdwr Julian yn erbyn y Persiaid.

Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr Jovianus, cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar 26 Chwefror 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar 28 Mawrth. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn 366 y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.

Bu Valens yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o Fisigothiaid i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a of Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, Gratian, oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar 9 Awst 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan Theodosius I.

Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn Credo Nicea.

Yr Ysbryd Glân

Yn ôl Cristnogaeth, trydydd person y Drindod yw'r Ysbryd Glân. Gellir ei ystyried yn bresenoldeb ysbrydol y Duwdod yn y byd.

Datblygodd diwinyddiaeth yr Ysbryd Glân mewn ymateb i ddadleuon yn yr Eglwys Fore ynglŷn â'r berthynas rhwng Duw'r Tad ac Iesu, Duw'r Mab. Cafodd Ariadaeth ei chondemnio gan Gyngor Nicaea yn 325 am iddi ddysgu taw creadur oedd y Mab ac nid yn gyfartal nac yn gyd-dragwyddol â'r Tad. Yn 381 cafodd y syniad taw creadigaeth gan y Mab yw'r Ysbryd Glân ei chondemnio gan Gyngor Caergystennin. Erbyn yr 11g derbyniai'r filioque gan Eglwys Rhufain, hynny yw ychwanegiad at Gredo Nicea-Caergystennin sydd yn awgrymu bod yr Ysbryd Glân yn deillio o'r Tad a'r Mab. Hwn oedd un o'r gwahaniaethau mewn athrawiaeth Gristnogol a arweiniodd at y Sgism Fawr yn 1054.

Cynrychiolir yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythur drwy drosiadau: y golomen wen, symbol heddwch a chymod; corwynt, symbol nerth; a thafodau tân, symbol o berlewyg credinwyr.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.