3edd ganrif CC

4g CC - 3g CC - 2g CC
200au CC 210au CC 220au CC 230au CC 240au CC 250au CC 260au CC 270au CC 280au CC 290au CC

Digwyddiadau

Blynyddoedd a degawdau

200au CC 201 CC 202 CC 203 CC 204 CC 205 CC 206 CC 207 CC 208 CC 209 CC
210au CC 210 CC 211 CC 212 CC 213 CC 214 CC 215 CC 216 CC 217 CC 218 CC 219 CC
220au CC 220 CC 221 CC 222 CC 223 CC 224 CC 225 CC 226 CC 227 CC 228 CC 229 CC
230au CC 230 CC 231 CC 232 CC 233 CC 234 CC 235 CC 236 CC 237 CC 238 CC 239 CC
240au CC 240 CC 241 CC 242 CC 243 CC 244 CC 245 CC 246 CC 247 CC 248 CC 249 CC
250au CC 250 CC 251 CC 252 CC 253 CC 254 CC 255 CC 256 CC 257 CC 258 CC 259 CC
260au CC 260 CC 261 CC 262 CC 263 CC 264 CC 265 CC 266 CC 267 CC 268 CC 269 CC
270au CC 270 CC 271 CC 272 CC 273 CC 274 CC 275 CC 276 CC 277 CC 278 CC 279 CC
280au CC 280 CC 281 CC 282 CC 283 CC 284 CC 285 CC 286 CC 287 CC 288 CC 289 CC
290au CC 290 CC 291 CC 292 CC 293 CC 294 CC 295 CC 296 CC 297 CC 298 CC 299 CC
300au CC 300 CC

Brennus

Mae Brennus (neu Brennos) yn enw ar ddau bennaeth Celtaidd a wnaeth enw iddynt eu hunain trwy eu hymgyrchoedd milwrol:

Brennus (4edd ganrif CC), pennaeth llwyth y Senones a gipiodd ddinas Rhufain tua 387 CC.

Brennus (3edd ganrif CC), (bu farw 279 CC), arweinydd y fyddin Geltaidd a ymosododd ar Facedonia a gogledd Groeg.Yn llyfr Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, mae hanes am gymeriad o'r enw "Brennius" sy'n concro Rhufain; efallai wedi ei greu gan Sieffre ar sail y ddau Brennus hanesyddol.

Mae'n debyg fod yr enw yn dod o'r un gwreiddyn a'r gair Cymraeg "Brenin", ac efallai ei fod yn deitl yn hytrach nag yn enw personol.

Brennus (3edd ganrif CC)

Am y "Brennus" a gipiodd ddinas Rhufain ganrif ynghynt, gweler Brennus (4edd ganrif CC).Roedd Brennus (or Brennos) (bu farw 279 CC) yn un o arweinwyr y fyddin o wahanol lwythi Galaidd a ymosododd ar Facedonia a gogledd Groeg ac a orchfygodd y Groegiaid mewn brwydr yn Thermopylae, cyn ceisio anrheithio Delphi. Ceir yr hanes gan yr haneswyr Pausanias a Junianus Justinus.

Dywed Strabo fod Brennus yn perthyn i lwyth y Prusi, nad oes cofnod amdanynt fel arall. Roedd Galiaid wedi ymsefydlu yn Pannonia oherwydd tŵf y boblogaeth yng Ngâl, a phan godasant fyddin i geisio concro tiroedd eraill daeth Brennus yn un o'r arweinwyr. Prif arweinydd y fyddin ar y cyntaf oedd Cambaules, a'u harweiniodd cyn belled a Thrace, lle arosasant am gyfnod. Yn 279 CC, ffurfiasant dair byddin i ymosod ar y gwledydd o'u cwmpas, un ohonynt dan arweiniad Brennus a Acichorius. Bu'r rhain yn llwyddiannus, ac ar argymhelliad Brennus ffurfiwyd un fyddin fawr dan ei arweiniad ef ac Acichorius i ymosod ar y Groegiaid.

Bu brwydr rhyngddynt hwy a byddin Roegaidd dan yr Atheniad Calippus yn Thermopylae, Bu'r Groegiaid yn llwyddiannus ar y cyntaf, ond fel y Persiaid ym Brwydr Thermopylae ddwy ganrif ynghynt, gyrroedd y Galiaid ran o'r fyddin trwy'r mynyddoedd i ymosod o'r tu cefn, a gorchfygwyd y Groegiaid.

Dywed Pausanias a Junianus Justinus fod y Galiaid yn awr wedi ymosod ar Delphi, gyda'r bwriad o anrheithio cysegr Apollo. Gorchfygwyd hwy gyda chymorth storm enbyd o fellt a tharanau, a bu raid iddynt encilio mewn anhrefn. Dywed Pausanias i Brennus ei ladd ei hun trwy yfed gwin heb ddŵr ynddo, tra dywed Justinus ei fod wedi ei drywanu ei hun.

Helenius Acro

Roedd Helenius Acro, neu Acro (fl. tua'r 5g O.C.) yn ramadegydd Rhufeinig.

Ysgrifennodd feirniadaethau ac esboniadau Lladin ar waith Terens a Horas. Mae'r gwaith yma ar Horace, bellach, ar goll, ond cyfeirir atynt gan y gramadegydd Charisius. Ceir peth tystiolaeth o'i waith ar Persius.

Mae casgliad o scholia o'r 7g ar lenyddiaeth Ladin yn dwyn ei enw.

Jerash

Mae Jerash (Arabeg: جرش; Hen Groeg: Γέρασα; sillafiadau eraill: Jerash, Jerasz, Jarash, yr hen Geraz neu Geras a enwir yn y Beibl) yn dinas yn yr Iorddonen, ac yn dref weinyddol Ardal Lywodraethol Jerash (muhafazy Jerash) sef y gofernad lleol. Mae wedi ei leoli tua 50 km i'r gogledd o'r brifddinas, Amman. Poblogaidd yn ddinas yn 2015 oedd 50,745,Mae'n adnabyddus am ei gwyliau diwylliannol a chelfyddydol blynyddol a gynhalir ym mis Gorffennaf sy'n denu artistiaid o bob cwr o'r byd.

Pharnavaz I, brenin Iberia

Brenin Iberia (Kartli, Georgia) o 284 CC hyd 219 CC oedd Pharnavaz I (tua 326 CC - 219 CC).

Zenodotus

Gramadegydd Groeg o Effesus yn y 3g CC oedd Zenodotus a gafodd ei benodi yn arolygydd Llyfrgell Alexandria gan y Brenin Ptolemi II. Fe greodd adolygiadau o farddoniaeth yr hen Roegiaid, gan gynnwys yr argraffiad beirniadol cyntaf o Homeros, ac ysgrifennodd astudiaethau ar Pindar ac Anacreon.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.