14eg ganrif

13g - 14g - 15g
1300au 1310au 1320au 1330au 1340au 1350au 1360au 1370au 1380au 1390au

Digwyddiadau

Blynyddoedd a degawdau

1300au 1300 1301 1302 1303 1304 1305 1306 1307 1308 1309
1310au 1310 1311 1312 1313 1314 1315 1316 1317 1318 1319
1320au 1320 1321 1322 1323 1324 1325 1326 1327 1328 1329
1330au 1330 1331 1332 1333 1334 1335 1336 1337 1338 1339
1340au 1340 1341 1342 1343 1344 1345 1346 1347 1348 1349
1350au 1350 1351 1352 1353 1354 1355 1356 1357 1358 1359
1360au 1360 1361 1362 1363 1364 1365 1366 1367 1368 1369
1370au 1370 1371 1372 1373 1374 1375 1376 1377 1378 1379
1380au 1380 1381 1382 1383 1384 1385 1386 1387 1388 1389
1390au 1390 1391 1392 1393 1394 1395 1396 1397 1398 1399
1400au 1400

Gruffudd Gryg

Bardd Cymraeg a oedd yn un o'r cywyddwyr cynnar oedd Gruffudd Gryg (ganed tua 1310 - bu farw tua 1380). Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr ac yn cydoesi â Dafydd ap Gwilym.

Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd

Bardd Cymraeg o Ynys Môn oedd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 1352 – 1382). Ceir y rhan fwyaf o'i waith yn Llyfr Coch Hergest. Mae'n perthyn i ddosbarth o Feirdd yr Uchelwyr y gellir eu hystyried fel yr olaf o'r Gogynfeirdd oherwydd arddull hynafol eu canu, sy'n barhad o draddodiad Beirdd y Tywysogion.

Gruffudd ap Tudur Goch

Bardd Cymraeg a fu yn ei flodau ganol y 14g oedd Gruffudd ap Tudur Goch (c. 1330 - ). Fe'i cysylltir ag Arfon ac Ynys Môn.

Hillyn

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Hillyn (bl. ail chwarter y 14g).

Hywel Ystorm

Bardd Cymraeg a gysylltir â de Cymru oedd Hywel Ystorm (fl. ail hanner y 14g?).

Ieuan Llwyd ab y Gargam

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Ieuan Llwyd ab y Gargam (bl. tua 1400).

Iorwerth ab y Cyriog

Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau tua chanol y 14g oedd Iorwerth ab y Cyriog (fl. tua 1325 - tua 1375). Er nad oes prawf pendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab y bardd Gronw Gyriog oedd ef a'i fod, fel ei dad, yn hannu o Fôn.

Ithel Ddu

Bardd Cymraeg a gysylltir â gogledd-orllewin Cymru oedd Ithel Ddu (fl. ail hanner y 14g).

Llywarch Bentwrch

Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn y 14g oedd Llywarch Bentwrch (fl. tua chanol y 14g). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn.

Llywelyn Ddu ab y Pastard

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Ddu ab y Pastard (bl. ail chwarter y 14g).

Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (bl. ail hanner y 14g).

Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.

Mab Clochyddyn

Bardd Cymraeg sy'n perthyn i do cyntaf Beirdd yr Uchelwyr oedd Mab Clochyddyn (fl. hanner cyntaf y 14g). Gellir derbyn yn weddol hyderus ei fod yn frodor o Fôn.

Meurig ab Iorwerth

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Meurig ab Iorwerth (bl. diwedd y 14g).

Rhys ap Dafydd ab Einion

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Rhys ap Dafydd ab Einion (fl. 14g).

Sypyn Cyfeiliog

Un o'r cywyddwyr cynnar oedd Sypyn Cyfeiliog, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (bl. tua 1340 – 1390). Er ein bod yn gwybod ei enw iawn, mae'n arfer cyfeirio ato fel rheol wrth ei enw barddol 'Sypyn Cyfeiliog'.

Trahaearn Brydydd Mawr

Un o'r cynharaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Trahaearn Brydydd Mawr (bl. dechrau'r 14g). Roedd yn frodor o Ystrad Tywi, yn ôl pob tebyg, ac yn cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf ei gyfnod gan ei gyfoeswyr.

Tudur Ddall

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Tudur Ddall (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed).

Yr Ustus Llwyd

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Yr Ustus Llwyd, a flodeuai yn y 14g. Roedd yn bengampwr ar y canu dychanol. Ni wyddys ddim amdano ar wahân i'r hyn y gellir ei gasglu oddi wrth dystiolaeth ei gerddi. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o ardal Mawddwy.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.