13 Medi

13 Medi yw'r unfed dydd ar bymtheg a deugain wedi'r dau gant (256ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (257ain mewn blynyddoedd naid). Erys 109 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.

Digwyddiadau

  • 1902 - Defnyddiwyd tystiolaeth olion bysedd am y tro cyntaf i erlin achos llys yn llwyddiannus, yn Llundain.

Genedigaethau

Marwolaethau

Gwyliau a chadwraethau

1759

17g - 18g - 19g1700au 1710au 1720au 1730au 1740au - 1750au - 1760au 1770au 1780au 1790au 1800au1754 1755 1756 1757 1758 - 1759 - 1760 1761 1762 1763 1764

1819

18g - 19g - 20g1760au 1770au 1780au 1790au 1800au - 1810au - 1820au 1830au 1840au 1850au 1860au1814 1815 1816 1817 1818 - 1819 - 1820 1821 1822 1823 1824

1916

19g - 20g - 21g1960au 1870au 1880au 1890au 1900au - 1910au - 1920au 1930au 1940au 1950au 1960au1911 1912 1913 1914 1915 - 1916 - 1917 1918 1919 1920 1921

1924

19g - 20g - 21g1870au 1880au 1890au 1900au 1910au - 1920au - 1930au 1940au 1950au 1960au 1970au1919 1920 1921 1922 1923 - 1924 - 1925 1926 1927 1928 1929

1930

19g - 20g - 21g1880au 1890au 1900au 1910au 1920au - 1930au - 1940au 1950au 1960au 1970au 1980au1925 1926 1927 1928 1929 - 1930 - 1931 1932 1933 1934 1935

1944

19g - 20g - 21g1890au 1900au 1910au 1920au 1930au - 1940au - 1950au 1960au 1970au 1980au 1990au1939 1940 1941 1942 1943 - 1944 - 1945 1946 1947 1948 1949

1959

19g - 20g - 21g1900au 1910au 1920au 1930au 1940au - 1950au - 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au1954 1955 1956 1957 1958 - 1959 - 1960 1961 1962 1963 1964

1989

19g - 20g - 21g1930au 1940au 1950au 1960au 1970au - 1980au - 1990au 2000au 2010au 2020au 2030au1984 1985 1986 1987 1988 - 1989 - 1990 1991 1992 1993 1994

BBC Radio Cymru

Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.

Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd.

Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.

Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn, ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tommo, Tudur Owen a Geraint Lloyd.

Calendr Gregori

Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop. Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio '1581'.

Roedd y flwyddyn yn Y Calendr Iwliaidd, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd y Calendr Iwliaidd yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu'r hen galendr Iwliaidd ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:

Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.

Calendr solar ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r Calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.

Felipe II, brenin Sbaen

Brenin Sbaen o 16 Ionawr 1556 hyd ei farwolaeth oedd Felipe III (21 Mai 1527 - 13 Medi 1598).

Cafodd ei eni yn Valladolid, yn fab i Siarl I, brenin Sbaen a'i wraig Isabella o Bortiwgal.

Tyrrai nifer o ysgolheigion i'w lys. Un o'r rhain oedd y cartograffydd o Fflandrys Abraham Ortelius, a gafodd swydd fel Daearyddwr yno yn 1575.

Enwyd Ynysoedd, a bellach Gweriniaeth Y Philipinau yn y Dwyrain Pell ar ei ôl gan i'r ynysoedd gael ei coloneiddio i raddau helaeth yn ystod ei deyrnasiad.

Genyn

Segment neu ran o'r DNA sy'n encodio RNA (neu brotin yw genyn (ll. genynnau), sy'n uned foleciwlar ac yn rhan o etifeddeg. Trosglwyddo genynnau i'r epil yw'r prif ddull o drosglwyddo nodweddion ffenotypig. Caiff mathau gwahanol o genynnau (a chydadwaith genyn-amgylchedd) ddylanwad mawr ar nodweddion biolegol organebau. Mae rhai o'r nodweddion hyn yn weledol: lliw llygad, sawl troed, braich neu fus, ac eraill nad ydynt yn weladwy e.e. teip gwaed, y risg o ddal clefyd arbennig, neu'r miloedd o brosesau hynny sy'n ffurfio yr hyn a elwir yn 'fywyd'.

Gall genynnau fwtanu (mutate) o fewn eu cyfres, gan arwain at amrywiolion o fewn eu poblogaeth, a elwir yn alelau. Mae'r alelau hyn yn codio mathau gwahanol o brotin, sy'n arwain at nodweddion o ffenodeipiau gwahanol.

Mae'r cysyniad o genyn yn parhau i gael ei newid a'i ail-ddiffinio wrth i wyddoniaeth ddarganfod ffenomenâu gwahanol, a gwybodaeth newydd yn dod i'r fei.

Hydrogen

Elfen gemegol gyda'r symbol H a'r rhif atomig 1 yw hydrogen. Yr hen enw Cymraeg amdano oedd: ulai, awyr hylosg a gwyen. Hydrogen yw'r elfen ysgafnaf a mwyaf cyffredin yn y tabl cyfnodol; mae 75% o fater baryonaidd wedi'i wneud ohono, ond dylid cofio, wrth gwrs, y ceir mater arall: mater tywyll. Ar dymheredd arferol y labordy, mae'n nwy di-liw, diarogl, anfetalaidd a fflamadwy iawn, ac fe'i ceir yn ffurf molecylau gyda'r fformiwla H2. Yr isotop mwyaf cyffredin ohono, fodd bynnag, yw protiwm (symbol 1H), sydd ag un proton a dim niwtron. Ar y Ddaear, mae i'w gael fel arfer fel moleciwlau fel dŵr, cyfansoddion organig ac organebau byw. Mae sêr yn cynnwys hydrogen gan amlaf, ond yn ffurf plasma.

Daw'r enw o'r Groeg ὕδωρ (hudôr) (dŵr), a gennen (creawdwr).

Mae gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae mewn adweithiau asid-bâs gan fod cyfnewid protonau rhwng moleciwlau hydawdd yn rhan mor bwysig o'r adweithiau hynny. Mewn cyfansoddyn ïonig, mae hydrogen yn cymeryd gwefr negydd (h.y. anion), neu wefr bosydd (cation), a ddynodir gan y symbol H+.

Lucile Messageot

Arlunydd benywaidd a anwyd yn Lons-le-Saunier, Ffrainc oedd Lucile Messageot (13 Medi 1780 – 23 Mai 1803).

Marian Cannon Schlesinger

Arlunydd benywaidd o Unol Daleithiau America yw Marian Cannon Schlesinger (13 Medi 1912 < - 14 Hydref 2017.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn gweithio fel arlunydd yn Unol Daleithiau America.

Miriam Davenport

Arlunydd benywaidd o Unol Daleithiau America oedd Miriam Davenport (6 Mehefin 1915 - 13 Medi 1999).Fe'i ganed yn Boston a threuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn gweithio fel arlunydd yn Unol Daleithiau America.

Bu farw yn Mount Pleasant.

Oslo

Prifddinas Norwy yw Oslo (hen enw: Christiana). Oslo yw dinas fwyaf y wlad o ran ei phoblogaeth, gyda 541,822 o drigolion (1 Ebrill, 2006).

Yma yn Oslo y cychwynodd y negydu cyfrinachol rhwng Mudiad Rhyddid Palesteina a Llywodraeth Israel a roddodd fodolaeth i'r Gytundebau Oslo.

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol ymchwil cyhoeddus yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli' a'r prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards. Ers hynny tyfodd nifer y myfyrwyr o 26 i dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau. Yn 2016 fe'i dynodwyd y brifysgol mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac ymysg y 10 saffa yn y DU (yn ôl y Complete University Guide 2016).

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.Ceir chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:

Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Athrofa Datblygu Proffesiynol

Athrofa Busnes a’r Gyfraith

Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth & Seicoleg

Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol

Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadurega deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

Yr Ymerodraeth Rufeinig

Yr Ymerodraeth Rufeinig (Lladin: Imperium Romanum) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd y Weriniaeth Rufeinig ac a barhaodd hyd y 5g OC yn y gorllewin, ac fel yr Ymerodraeth Fysantaidd hyd 1453 yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo Senedd Rhufain, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio Iŵl Cesar fel dictator am oes yn 44 CC, buddugoliaeth etifedd Cesar, Octavianus ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (16 Ionawr, 27 CC).

Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o Sbaen yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn Carthago, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad Trajan tua 177. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwâr) o dir.

Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr Diocletian. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn 476 pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaernïaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.