132

1g - 2g - 3g
80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au
127 128 129 130 131 132 133 134 135 136 137

Digwyddiadau

  • Yr arweinydd Iddewig Simon bar Kokhba yn cychwyn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig. Cefnogir y gwrthryfel gan Rabbi Akiva.
  • Gorfodir y lleng X Fretensis i adael Jerusalem a dychwelyd i Cesarea. Mae'r Iddewon yn meddiannu'r ddinas. Dinistrir y lleng XXII Deiotariana yn llwyr.
  • Dechrau adeiladu Mawsoleum Hadrian yn Rhufain (Castel Sant'Angelo heddiw).

Genedigaethau

Marwolaethau

  • Sun Cheng
129

1g - 2g - 3g 70au 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 124 125 126 127 128 129 130 131 132 133 134

130

1g - 2g - 3g 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 125 126 127 128 129 130 131 132 133 134 135

130au

1g - 2g - 3g80au 90au 100au 110au 120au - 130au - 140au 150au 160au 170au 180au130 131 132 133 134 135 136 137 138 139

Digwyddiadau a Gogwyddion

Pobl Nodweddiadol

Hadrian, Ymerawdwr Rhufeinig

131

1g - 2g - 3g 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 126 127 128 129 130 131 132 133 134 135 136

132 CC

2 CC - 1 CC - 1g - 180au CC 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC 100au CC90au CC 80au CC

137 CC 136 CC 135 CC 134 CC 133 CC 132 CC 131 CC 130 CC 129 CC 128 CC 127 CC

133

1g - 2g - 3g 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 128 129 130 131 132 133 134 135 136 137 138

133 CC

2 CC - 1 CC - 1g - 180au CC 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC 100au CC90au CC 80au CC

137 CC 136 CC 135 CC 134 CC 133 CC 132 CC 131 CC 130 CC 129 CC 128 CC 127 CC

135

1g - 2g - 3g 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 130 131 132 133 134 135 136 137 138 139 140

136

1g - 2g - 3g 80au 90au 100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 131 132 133 134 135 136 137 138 139 140 141

21 Awst

21 Awst yw'r trydydd dydd ar ddeg ar hugain wedi'r dau gant (233ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (234ain mewn blynyddoedd naid). Erys 132 diwrnod hyd diwedd y flwyddyn.

2il ganrif

1g - 2g - 3g100au 110au 120au 130au 140au 150au 160au 170au 180au 190au

Caerfaddon

Dinas yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, a chanolfan weinyddol ardal awdurdod unedig Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf yw Caerfaddon (Saesneg: Bath).

Bu'n un o ddinasoedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain, gyda'r enw Lladin Aquae Sulis.

Diddymwyd Cyngor Dinas Caerfaddon yn 1996. Mae'r wybodlen yn dangos arfbais cyn-gyngor y ddinas.

Gweriniaeth Rhufain

Gweler hefyd: Gweriniaeth Rhufain (19eg ganrif).Gweriniaeth Rhufain oedd y cyfnod yn hanes Rhufain hynafol rhwng diorseddu'r brenin olaf tua 509 CC a sefydlu yr Ymerodraeth Rufeinig.

Yn y cyfnod cynnar, brenhinoedd oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, Tarquinius Superbus, tua 509 CC. Dan y drefn newydd, roedd dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.

Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3 CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus.

Yng nganol yr 2 CC, bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn 146 CC cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan Scipio Aemilianus, ac ar orchymyn y senedd, dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan Lucius Mummius fyddin y Cynghrair Achaeaidd ym Mrwydr Corinth, a daeth Groeg yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.

Erbyn hyn roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu latifundia, ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.

Yn 133 CC etholwyd Tiberius Sempronius Gracchus yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw Lex Sempronia agraria. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn 132 CC lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, Gaius Gracchus, fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.

Datblygodd terfysgoedd mewnol eto yn ystod 1 CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius a gor-nai Cesar, Octavianus (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth

Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd princeps, yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw 16 Ionawr 27 CC, pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.

Heneglwys

Pentrefan a phlwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Heneglwys ( ynganiad ) (cyfeiriad grid SH424762). Fe'i lleolir milltir i'r de o bentref Bodffordd yn y gymuned o'r un enw, tua hanner ffordd rhwng Gwalchmai i'r gorllewin a Llangefni i'r dwyrain. Mae 132.7 milltir (213.5 km) o Gaerdydd a 215.8 milltir (347.2 km) o Lundain.

HuMP

Bryn neu fynydd ydy HuMP - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i Farilyn sydd ag uchder cymharol (drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.

Iudaea

Talaith Rufeinig yn ardal Judea, Palesteina o'r wlad sy' nawr yn Israel oedd Iudaea (Hebraeg: יהודה, Groeg: Ιουδαία; Lladin: Iudaea). Enwyd y dalaith ar ôl Teyrnas Judah.

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal yn 63 CC, pan fu'r cadfridog Pompeius Magnus yn ymgyrchu yno. Diorseddwyd y brenin Judah Aristobulus II, a gwnaed ei frawd Ioan Hyrcanus II yn frenin dan awdurdod Rhufain.

Am gyfnod bu Judea yn deyrnas dan benarglwyddiaeth Rhufain; o 40 CC hyd 4 CC roedd yn rhan o deyrnas Herod Fawr. Yn dilyn ei farwolaeth ef, rhannwyd ei deyrnas, gyda rheolwr pob rhan yn dwyn y teitl tertrarch ("rheolwr dros bedwaredd ran"). Tetrach Judea oedd mab Herod Fawr, Herod Archelaus, ond yn 6 OC diorseddwyd ef gan yr ymerawdwr Augustus yn dilyn apêl iddo gan ddeiliaid Herod.

Cyfunwyd Judea gyda Samaria ac Idumea i greu talaith Rufeinig Iudaea. Bu nifer o wrthryfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid, yn cynnwys y Gwrthryfel Iddewig Mawr (66-70), Rhyfel Kitos (115-117) a gwrthryfel Simon bar Kochba (132-135). Wedi gwrthryfel Bar Kochba, newidiodd yr ymerawdwr Hadrian enw'r dalaith i Syria Palaestina ac enw Jeriwsalem i Aelia Capitolina.

Roedd y dalaith yn un o'r ychydig daleithiau Rhufeinig oedd yn cael ei llywodraethu gan Rufeiniwr o radd ecwestraidd, un radd gymdeithasol yn is na'r llywodraethwyr o radd seneddol yn y taleithiau eraill. Un o'r llywodraethwyr oedd Pontius Pilat, o 26 hyd 36.

Rhwng 41 a 44, roedd Iudaea yn deyrnas dan Herod Agrippa. Wedi ei farwolaeth ef, bu dan reolaeth uniongyrchol Rhufain am gyfnod, cyn ei rhoi i fab Herod Agrippa, Marcus Julius Agrippa, yn 48. Pan fu ef farw tua 100, daeth yn dalaith unwaith eto.

Ivybridge

Tref a phlwyf sifil yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, ydy Ivybridge.

Mae Caerdydd 132 km i ffwrdd o Ivybridge ac mae Llundain yn 295.7 km. Y ddinas agosaf ydy Plymouth sy'n 16 km i ffwrdd.

Mithridates VI, brenin Pontus

Brenin Pontus yn Asia Leiaf rhwng 120 a 63 CC oedd Mithridates VI (Groeg: Μιθριδάτης), a elwir hefyd yn Mithridates Eupator neu Mithridates Fawr, (132 - 63 CC). Roedd yn un o elynion mwyaf ystyfnig a llwyddiannus Gweriniaeth Rhufain yn y cyfnod yma.

Roedd Mithridates VI yn fab i Mithridates V (150 CC - 120 CC). Bu ei dad farw pan oedd Mithridates yn ieuanc, ac am gyfnod ei fam Gespaepyris fu’n rheoli’r deyrnas. Tua. 115 CC diorseddodd Mithridates ei fam a’i charcharu. I sicrhau ei safle, lladdodd nifer o’i frodyr a priododd ei chwaer, Laodice.

Uchelgais Mithridates oedd cael rheolaeth dros y cyfan o ardal y Môr Du ac Anatolia. Concrodd Colchis, a gorchfygodd y Scythiaid a’u gorfodi i’w gydnabod fel arglwydd. Cytunodd i rannu Paphlagonia a Galatia gyda Nicomedes III, brenin Bithynia. Yn ddiweddarach aeth yn rhyfel rhwng Mithridates a Nicomedes ynghylch Cappadocia, ac wedi i Mithridates ei orchfygu mewn nifer o frwydrau, gofynnodd Nicomedes am gymorth Rhufain.

Parhaodd yr ymladd dan frenin nesaf Bithynia, Nicomedes IV, a choncrodd Mithridates Bithynia ac ymestyn ei awdurdod hyd y Propontis. Cafodd gefnogaeth y dinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Athen, yn erbyn Rhufain. Gwnaeth gynghrair a Tigranes Fawr, brenin Armenia, a briododd Cleopatra, merch Mithridates.

Yn 88 CC, gorchymynodd Mithridates ladd pob Rhufeiniwr yng ngorllewin Anatolia; dywedir i 80,000 o wyr, gwragedd a phlant gael eu lladd. Ymladdwyd rhyfel rhwng Mithridates a Rhufain rhwng 88 CC and 84 CC, a gorfododd y cadfridog Rhufeinig Lucius Cornelius Sulla Mithridates i encilio o Wlad Groeg. Fodd bynnag, roedd Gaius Marius wedi cipio grym yn Rhufain, a gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates er mwyn medru dychwelyd i Rhufain.

Pan geisiodd Rhufain feddiannu Bithynia,ymosododd Mithridates, a bu rhyfel arall rhwng 83 CC a 82 CC, gyda’r cadfridogion Lucullus ac yna Gnaeus Pompeius Magnus yn ymladd yn erbyn Mithridates. Ni orchfygwyd Mithridates yn derfynol hyd y trydydd rhyfel, rhwng 75 CC a 65 CC, pan orchfygwyd ef gan Pompeius a’i orfodi i ffoi i’r Crimea. Ceisiodd godi byddin arall i ymladd yn erbyn Rhufain, ond bradychwyd ef gan ei fab, a lladdodd ei hun yn Panticapaeum. Enwyd dinas Eupatoria yn y Crimea ar ei ôl.

Ceir nifer o hanesion am Mithridates. Dywed Plinius yr Hynaf ei fod yn medru siarad iaith bob un o’r ddwy genedl ar hugain oedd dan ei awdurdod. I osgoi’r perygl o gael ei wenwyno, dywedir iddo ddechrau cymeryd ychydig o wenwyn a chynyddu’r dôs yn raddol, nes nad oedd unrhyw wenwyn yn cael effaith arno.

Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1997

Enillwyd Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1997 gan Ffrainc, a gyflawnodd y Gamp Lawn.

Ieithoedd eraill

This page is based on a Wikipedia article written by authors (here).
Text is available under the CC BY-SA 3.0 license; additional terms may apply.
Images, videos and audio are available under their respective licenses.